Amgylchedd i safon bwyd ar gyfer profi, dilysu a gwella deunyddiau presennol a newydd fel bwydydd. Gan gynnwys cynnwys maethlon, bywyd silff a dewisiadau defnyddwyr.

Llinellau Cynhyrchu Bwyd:

Labordai a phrosesu graddio bwyd yn cydymffurfio â safonau Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC)

  • Cig – Derbynfa nwyddau gyda iard ddosbarthu, cyfleusterau profi cysyniad (90m2) a storfa oer ar gyfer cigoedd amrwd.
  • Llaeth a hylifau – Derbynfa (130m2; capasiti: sypiau 1 – 500 litr), prosesu thermol a gwahanu porthiant llaeth amrwd yn caniatáu pasteureiddio, hidlo a thriniaethau peilot eraill mewn sypiau (hyd at 1000 litr) a modd parhaus (5000 litr/diwrnod). Gweithgynhyrchu caws, cynnyrch llaeth wedi’i feithrin, menyn a chynnyrch wedi’i rewi (capasiti ar gyfer sypiau 1 litr – 100 litr) a samplau atblygedig i astudio ystod o gynnyrch newydd ar yr un pryd.
  • Grawn a chodlysiau – Prosesu a llunio nwyddau crai, pobi ar y safle yn cynnwys paratoi bwydydd gweithredol i’w profi gan ddefnyddwyr.

Cegin Arddangos a Bythod Synhwyraidd:

  • Cegin Arddangos – Bydd cymorth Clyweledol llawn o fewn i gegin fasnachol yn galluogi gwylio o bell mewn amser real neu ddarparu cyflwyniadau a recordio ar gyfer datblygu a pharatoi cynnyrch newydd.
  • Dadansoddi Synhwyraidd – Chwe bwth ar gyfer paneli profi hyfforddedig, â chegin benodol ar eu cyfer ac yn cynnwys system ymateb gyfrifiadurol i ganiatáu coladu ymatebion mewn amser real i briodweddau organoleptig a synhwyraidd bwydydd newydd (blas, gwead, ymddangosiad etc).

Bwydydd Newydd a Gweithredol:

  • Bwydydd a Biobrosesu – Mae’r llinellau cynhyrchu bwyd a’r gallu i brosesu yn cysylltu â’r Prosesu Eilaidd a’r Unedau Eplesu i safon bwyd yn y Ganolfan Bioburo, yn caniatáu i ddeunyddiau bwyd gael eu cludo'n hawdd rhwng pob parth.
  • Honiadau am fwydydd ac iechyd – Bydd Canolfan Bwyd y Dyfodol yn integreiddio â gweithgareddau Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) Prifysgol Aberystwyth ac mewn lle da i ddatblygu tystiolaeth ar gyfer honiadau am iechyd sy’n gysylltiedig â bwydydd newydd

Dadansoddi yn y Labordy: cyfansoddiad, oes silff a diogelwch

  • Ansawdd a chyfansoddiad bwyd – Mynediad at gyfleusterau rhagorol yn yr Uwch Ganolfan Ddadansoddi i bennu cyfansoddiad bwyd gan ddefnyddio profion safonol a phwrpasol (e.e. asidau brasterog hanfodol, deunyddiau maethol-fferyllol, microfaethion, penderfynynnau cemegol bioweithgarwch, datblygiad blas a lliw).
  • Nodweddion bwyd - labordy â chyfarpar ar gyfer mesur nodweddion ffisegol hylifau a bwydydd solet (e.e. gwead cig)
  • Storio bwyd – dyblygu cypyrddau modylu amgylchedd thermol er mwyn astudio ystod o effeithiau tymheredd a lleithder ar brosesau aeddfediad bwyd

Cypyrddau arddangos nwyddau – er mwyn astudio effeithiau oes silff a mathau o becynnu ar ansawdd bwyd (e.e. profi lliw, sefydlogrwydd bwyd)

Diogelwch Bwyd – labordy microbioleg dynodedig ar gyfer profi a mesur dirywiad microbaidd.

Dilynwch ni