Cyfleusterau
Mae ArloesiAber yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau i helpu eich busnes i gychwyn, i dyfu ac i ffynnu. Darganfyddwch fwy am ein galluoedd penodol isod.
Rydym yn dal wrthi'n adeiladu'r Campws, felly nid yw rhai cyfleusterau yn barod eto, ond rydym wrth gwrs yn hapus i ddechrau trafodaethau am waith cydweithredol gan ddefnyddio galluoedd ac offer sydd ar y gweill. Cysylltwch â ni!
Cynnig cyfle i gwmnïau fanteisio ar gyfarpar ac arbenigedd ymchwil unigryw i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd o ffynonellau biolegol gan gynnwys planhigion, gweddillion cnydau a ffrydiau gwastraff. Gweithredol ers Haf 2019.
Darllen mwySicrhau bod partneriaid diwydiannol yn cael manteisio ar lu o adnoddau geneteg planhigion, dulliau o brosesu hadau ar raddfeydd gwahanol a dulliau werthuso ansawdd ar gyfer rhaglenni bridio arloesol. Gweithredol ers Haf 2019.
Darllen mwyCreu ffordd integredig o arloesi rhwng y cynhyrchu sylfaenol a’r prosesu, gan ychwanegu gwerth sylweddol i’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU, yn benodol cig, llaeth a hylifau eraill drwy wella ei nodweddion manwerthu allweddol (oes silff ac ansawdd) a hybu’r nodweddion swyddogaethol i’r eithaf er mwyn gwella iechyd pobl. Yn weithredol o Haf 2020.
Darllen mwyDadansoddiadau cyfansoddiadol pwrpasol, technolegau biofarcio, monitro o bell, trin data a modelu uwch i sbarduno arloesi yn y sectorau amaeth-amgylcheddol, bwyd, bioburo a gofal iechyd. Yn weithredol o Haf 2020.
Darllen mwyMan cyfarfod a chymdeithasol croesawgar ar gyfer digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol, i helpu i sbarduno sgyrsiau ar hap, annog pobl i feddwl yn greadigol a datrys problemau, mewn cymuned o gydweithio gyda chyfleusterau caffi a gofod swyddfa a labordy hyblyg i arloeswyr cydnaws. Yn weithredol o Haf 2020.
Am mwy o wybodaeth cysylltwch gyda aelod o’r tîm ar 01970 621809 neu ebostiwch [email protected]