Rhaglen Hwyluso Busness BioAccelerate yn Ôl am ei Ail Flwyddyn

23/05/2019
Ben Jones

Ar ddydd Iau 2 Mai 2019, fe wnaeth carfan ddiweddaraf BioAccelerate ymgynnull yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation) i ddechrau rhaglen hwyluso busnes 8 wythnos. Yn dilyn proses ddethol helaeth, gwahoddwyd deg arloeswr uchelgeisiol i ymuno â charfan 2019 BioAccelerate.

Bellach yn ei hail flwyddyn, mae BioAccelerate yn rhaglen hwyluso busnes sy'n helpu i fasnacheiddio arloesedd yn y sectorau biowyddorau, gofal iechyd, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod. Bydd y rhaglen yn cyfuno gweithdai rhyngweithiol gyda mentora wedi'i deilwra, gan roi i bob cyfranogwr y wybodaeth a'r sgiliau i ddatblygu eu syniadau arloesol.

Wedi iddynt gyrraedd diwedd y rhaglen, bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i ddangos y cynnydd a wnaed ar eu syniadau drwy gyflwyno i banel o arbenigwyr yn y diwydiant ac arweinwyr busnes. Gall y garfan BioAccelerate ddisgwyl datblygu eu cynfas model busnes eu hunain, rhagamcanion ariannol, cyfle yn y farchnad sydd wedi ei ddiffinio, rhagamcan o werth y cwmni a llwyfan cyflwyno cais.

Wedi'i arwain yn bennaf gan gwmni gyllid busnes, Nurture Ventures, bydd gweithdai hefyd yn cynnwys entrepreneuriaid llwyddiannus yn rhannu eu straeon gyda'r grŵp, yn ogystal â chyflwyniadau gan amrywiaeth o sefydliadau a noddwyr, gan gynnwys Appleyard Lees, Greaves Brewster, ABERInstruments a Menter a Busnes. Bydd y pynciau'n cynnwys cyllid buddsoddi, credydau treth ymchwil a datblygu, cyfraith eiddo deallusol, a diffinio cynnig gwerth.

Dywedodd Ben Jones, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth: "Rydyn ni wrth ein boddau i allu rhedeg y rhaglen hon eto eleni. Roedd yr adborth a gawsom ar gyfer y rhaglen y llynedd yn hynod gadarnhaol ac mae'r ffaith bod nifer o unigolion o'r garfan honno bellach yn mwynhau llwyddiannau sylweddol yn dyst i werth y rhaglen hon. Yr ydym yn awyddus iawn i weld AberInnovation yn cael ei ystyried yn ganolfan ffyniannus ar gyfer mentrau entrepreneuriaeth, ac mae rhaglenni fel BioAccelerate yn hanfodol i wireddu'r weledigaeth honno."

Nod Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yw helpu cwmnïau ym mhob cam o'u datblygiad yng Nghymru a thu hwnt i wireddu eu huchelgais ac i dyfu, ffynnu a sbarduno twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg ac amaeth-dechnoleg.

Dywedodd Bill Poll, Cyfarwyddwr Cysylltiol BBSRC: "Fel un o'r partneriaid sy'n buddsoddi yn y Campws, mae BBSRC yn llawn cyffro i weld sut mae AberInnovation yn sbarduno datblygiad cymuned arloesi fywiog a ffyniannus, gan alluogi entrepreneuriaid a busnesau i gydweithio ag ymchwilwyr, cael mynediad at gyfleusterau arbenigol ac elwa ar rwydweithiau a rhaglenni cymorth fel BioAccelerate."

Mae'r datblygiad uchelgeisiol gwerth £ 40.5m yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (rhan o UKRI); a chan Brifysgol Aberystwyth.