Proses gaffael i adeiladu prosiect Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn dechrau’n ffurfiol

11/05/2016
Douglas Owen
The proposed Aberystwyth Innovation and Enterprise Campus

Mae’n bleser gan AIEC Cyfyngedig a Phrifysgol Aberystwyth gyhoeddi bod y broses gaffael gyhoeddus i benodi Prif Gontractwr i brosiect Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC) wedi dechrau’n ffurfiol drwy ryddhau Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw. Mae AIEC Cyfyngedig a Phrifysgol Aberystwyth yn bwriadu cynnal proses gaffael ar y cyd, gydag AIEC Cyfyngedig yn gweithredu fel yr Awdurdod Contractio, ac yn rheoli’r weithdrefn ar ei ran ei hun ac ar ran Prifysgol Aberystwyth.

Rhyddhawyd yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn ddiweddar drwy byrth caffael GwerthwchiGymru a Chyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, ac mae dau Ddigwyddiad Cyswllt â’r Farchnad Cyn Caffael wedi eu trefnu er mwyn rhoi cyfle i’r gadwyn gyflenwi adeiladu gael gwybod mwy am brosiect AIEC.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf yn Aberystwyth ddydd Iau 26 Mai 2016 a’r ail ym Mae Caerdydd ddydd Gwener 27 Mai 2016. Rhaid i bawb sydd â diddordeb mewn dod i’r naill neu’r llall o’r Digwyddiadau Cyswllt Cyn Caffael, neu i’r ddau, gofrestru cyn 4pm ddydd Mercher 18 Mai 2016 drwy anfon ebost i [email protected], gan restru enwau, cyfeiriadau ebost a theitlau swyddi pawb a fydd yn bresennol (dim mwy na 2 o bob sefydliad). Mae croeso i bob cyflenwr adeiladu ddod i’r digwyddiadau (yn unol â chwmpas yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw), ond mae’n rhaid cofrestru ymlaen llaw fel y nodir uchod.

Bydd y Campws Arloesi a Menter, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, a chan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth, yn darparu cyfleusterau sy’n arwain y byd ynghyd â’r arbenigedd i greu atebion masnachol i’r diwydiant technoleg amaeth.

Dywedodd Huw Watkins, Cyfarwyddwr Prosiect AIEC: “Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw’n garreg filltir bwysig i’r prosiect ac yn gyfle i bawb sydd â diddordeb i gael gwybod mwy am gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i ddarparu cyfleuster ymchwil ac arloesi sy’n arwain y byd.”

Mae un o’r adeiladau sydd eisoes ar y safle ac a fydd yn rhan o’r Campws Arloesi a Menter ar safle Gogerddan wedi ei ailwampio i safon uchel ac yn darparu dros 300m2 o swyddfeydd i’w rhentu gan y gymuned fusnes. Mae’r cyfleuster wedi ei foderneiddio i ddarparu’n benodol ar gyfer cwmnïau sydd am fod yn agosach at y rhagoriaeth ymchwil sy’n arwain y byd sy’n digwydd ymhlith gwyddonwyr IBERS (Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth).