Digwyddiad Ymgynghori Cymunedol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth

07/10/2016
Douglas Owen

Mae Prifysgol Aberystwyth ac AIEC Cyfyngedig yn paratoi i gyflwyno cais cynllunio manwl yn hwyrach yn 2016 ar gyfer Campws Arloesi a Menter newydd Aberystwyth, a chynhelir Digwyddiad Ymgynghori Cymunedol yn Neuadd y Pentref, Penrhyn-coch ar Hydref 18fed.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i’r rheiny sydd â diddordeb ddysgu mwy am y gwelliannau arfaethedig i gampws Gogerddan. Bydd sesiwn galw heibio o 5.30yh, a bydd cyflwyniad ar gynigion AIEC am 7yh.

Bydd y campws, sydd ar gyrion Aberystwyth ar Gampws y Brifysgol yng Ngogerddan, yn darparu cyfleusterau sy’n arwain y byd a’r arbenigedd i greu atebion masnachol i’r diwydiant technoleg amaeth.

“Trefnwyd y digwyddiad i roi cyfle i’r gymuned leol ymgysylltu’n uniongyrchol â phrosiect AIEC o’r adeg gynharaf posibl. Edrychwn ymlaen at rannu ein gweledigaeth gyffrous ar gyfer y buddsoddiad a chyflwyno’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno” meddai Huw Watkins, Cyfarwyddwr Prosiect AIEC.

Bydd y cyfleusterau arfaethedig yn cynnwys Canolfan Bioburo, Canolfan Fwyd y Dyfodol, labordai Gwyddoniaeth Ddadansoddiadol a Chyfleuster ar gyfer Prosesu Hadau a Biobanc. Darperir hefyd fannau cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol a swyddfeydd. Bydd y Campws Arloesi newydd yn gwella capasiti’r Brifysgol yn y sector technoleg amaeth, a bydd niferoedd staff a myfyrwyr ar safle Gogerddan yn gyson â threfniadau presennol y Brifysgol.

Andrew Teage, Ymgynghorydd Cyswllt gyda Cushman & Wakefield sy’n arwain y tîm ymgynghori sy’n cynnig arweiniad ar gynllunio a chyngor ar gyfer y prosiect. Bydd Andrew yn hwyluso’r digwyddiad ymgynghori, a bydd wrth law, gyda’i gydweithwyr, i ateb cwestiynau ynglŷn â’r cynigion a threfn y cais cynllunio.

Bydd yr AIEC yn gyrru twf economaidd yn y rhanbarth a thu hwnt trwy greu swyddi gwerthfawr a chwmnïoedd ffyniannus sy’n seiliedig ar wybodaeth. Bydd yn adeiladu ar y galluoedd sydd eisoes ar gael yn Athrofeydd y Brifysgol, gan gydweithio’n agos gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i wella’r galluoedd ymchwil rhagorol sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.

Mae AIEC yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth.