Cyflwyniadau gan naw o arloeswyr wrth i BioAccelerate dynnu at ei derfyn

13/07/2018
Ben Jones

Ar ddydd Mercher 5 Gorffennaf, rhoddwyd cyfle i naw o entrepreneuriaid uchelgeisiol gyflwyno eu syniadau i banel o fuddsoddwyr ac arbenigwyr diwydiant yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth. Roedd y diwrnod cyflwyno yn nodi diwedd rhaglen 12 wythnos BioAccelerate, rhaglen hwyluso busnes cyntaf Cymru sy'n canolbwyntio ar fasnachu biowyddoniaeth ac arloesi gofal iechyd.

Roedd y rhaglen, a lansiwyd yn BioWales 2018 ym mis Mawrth, yn rhaglen hwyluso busnes ymarferol i helpu i fasnachu arloesedd yn y sectorau biowyddoniaeth a gofal iechyd ledled Cymru. Mewn rhaglen a oedd yn cyfuno gweithdai a sesiynau mentora un i un, roedd y cyfranogwyr yn gallu datblygu eu syniadau arloesol yn gynigion parod am y farchnad.

Dywedodd Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Roedd y cyflwyniadau gan yr entrepreneuriaid yn gyffrous ac yn sgleinio. Edrychaf ymlaen at weld Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn cefnogi'r busnesau newydd hyn o ardal y Canolbarth yn eu hymdrechion ymchwil a datblygu.” Rhannwyd y rhaglen rhwng Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a Nurture Ventures, cwmni ymgynghori ynghylch parodrwydd i fuddsoddi ym Mhort Talbot. Dywedodd Jeff Bartlett, sylfaenydd Nurture Ventures: “Mae awydd mawr am entrepreneuriaeth ac arloesedd yng nghanolbarth Cymru ac mae llwyddiant y rhaglen hon yn dyst i hynny. Bydd adeiladu'r campws newydd cyffrous yn rhoi hwb arall i'r rhai sy'n cychwyn busnesau, gan eu helpu i gael eu syniadau oddi ar y ddaear.”

Wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, BBSRC - rhan o UKRI a Phrifysgol Aberystwyth, bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn cynnig ystod o gyfleusterau o safon uchel i gefnogi arloesedd, gan alluogi mentrau masnachol i dyfu, ffynnu a gyrru twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, bio-brosesu a biotechnoleg ledled Cymru a thu hwnt.

Yn ystod bore prysur iawn, clywodd y panel – a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Fanc Datblygu Cymru ac Angels Invest Wales - ystod amrywiol o gyflwyniadau, gyda syniadau arloesol yn cynnwys ffermio 'aeroponic' fertigol dan do a biocarbonau wedi'u peiriannu i liniaru amodau pridd niweidiol a llygredig. Er nad oedd disgwyl buddsoddiadau o ganlyniad i’r cyflwyniadau, derbyniodd y cyfranogwyr oll adborth gwerthfawr ar faint o botensial buddsoddi oedd gan eu syniadau arloesol neu’u syniadau busnes.

Un o'r datblygiadau arloesol a gafodd ei gyflwyno i’r panel oedd system cynhyrchu bwyd sy’n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i reoli’r amgylchedd. Dywedodd William Stiles, cyd-sylfaenydd yn TechFarm: “Bu'r broses BioAccelerate yn brofiad buddiol iawn, ac mae wedi ein helpu i lunio'r weledigaeth ar gyfer ein busnes. Roedd y gweithdai yn amrywiol a rhyngweithiol ac roedd y sesiynau mentora un-i-un yn gynhwysfawr a thrylwyr iawn.”

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ar 2 Gorffennaf ac mae'n ceisio helpu cwmnïau ar bob cam o’u datblygiad yng Nghanolbarth Cymru a thu hwnt i wireddu eu huchelgais a thyfu, ffynnu a gyrru twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, bio-brosesu a biotechnoleg. Mae swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod wedi bod ar gael ar y safle am flwyddyn, ac mae'r gymuned fusnes yn parhau i dyfu wrth i fwy o denantiaid symud i mewn.