Mae BioAccelerate 2019 yn Chwilio am Arloeswyr Uchelgeisiol ar gyfer Rhaglen 8 Wythnos

07/03/2019
Ben Jones

Yn ôl am yr ail flwyddyn, mae BioAccelerate yn chwilio am hyd at ddeuddeg o arloeswyr buddiol ar gyfer ei garfan 2019.

Mae BioAccelerate 2019 yn hwylusydd busnes sy'n helpu i fasnacheiddio arloesedd yn y sectorau biowyddorau, gofal iechyd, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod. Bydd y rhaglen yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i ddatblygu eu datblygiadau arloesol I gynigion farchnad-baroda bydd yn arwain at lwyfan cais i banel o arweinwyr busnes ac arbenigwyr o’r diwydiant.

Fel menter ar y cyd rhwng Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a Nurture Ventures, bydd gweithdy cyntaf BioAccelerate 2019 yn digwydd ar ddydd Iau 2 Mai 2019. Bydd y rhaglen 8 wythnos yn cyfuno gweithdai dwys gyda mentora ymarferol ac mae cefnogaeth gan noddwyr y rhaglen yn galluogi i BioAccelerate gael ei gynnig yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr dethol. Bydd y pynciau'n cynnwys cyllid buddsoddi, credydau treth ymchwil, cyfraith eiddo deallusol, a chynnigion gwerth. Bydd pob gweithdy hefyd yn cynnwys entrepreneuriaid llwyddiannus yn rhannu eu straeon ac yn cynnig cyngor amhrisiadwy i'r rhai sy'n cymryd rhan.

Bydd ceisiadau ar gyfer BioAccelerate 2019 ar agor rhwng dydd Llun 4 a dydd Iau 28 Mawrth, pan fydd panel dethol yn gwerthuso'r Datganiadau o Ddiddordeb gyda'r potensial ar gyfer yr effaith fasnachol a chymdeithasol uchaf. Gall cyfranogwyr sy'n cwblhau'r rhaglen BioAccelerate ddisgwyl datblygu eu cynfas model busnes eu hunain, rhagamcanion ariannol, cyfle diffiniedig i'r farchnad, prisiad o’r cwmni a dec ar gyfer eu llwyfan cais.

Dywedodd Dr. Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cynnig BioAccelerate eto eleni i gwmnïau ac entrepreneuriaid cyfnod cynnar. Mae ein hentrepreneuriaid 2018 wedi mynd o nerth i nerth ers rhaglen y llynedd ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu grŵp arall. Mae'r gymuned fusnes sy'n ymgysylltu â'n harbenigwyr yn parhau i dyfu'n gyflym ac mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth bellach wedi hen gychwyn ar ddatblygu rhwydweithiau a chysylltiadau drwy BioAccelerate a mentrau eraill tuag at glwstwr mwy o faint."

Mae effaith rhaglen BioAccelerate y llynedd yn glir i'w weld, gyda llawer o'r garfan wedi gwneud cynnydd calonogol ar eu busnesau ers elwa o'r rhaglen gymorth deilwredig. Mae pedwar o'r garfan flaenorol wedi cofrestru eu cwmnïau yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth ers hynny, ac maent yn parhau i fanteisio ar y cymorth busnes a gynigir.

Dywedodd Jeff Bartlett, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Nurture Venutres: "Pan lansiwyd BioAccelerate yn 2018, ein nod oedd cefnogi ein harloeswyr cynhenid yng Nghymru gyda chyngor ymarferol, mentora a dysgu yn canolbwyntio ar barodrwydd i fuddsoddi. Mae llwyddiant rhaglen y llynedd wedi arwain at lansio busnesau a ariennir yn llawn ac eraill yn parhau i ddatblygu eu syniadau i fod yn barod i'r farchnad. Ar gyfer 2019 rydym wedi llunio rhaglen ryngweithiol 8 wythnos a fydd yn arwain at ddiwrnod llwyfan cais, sy'n ein galluogi i weithredu'n gyflym i fasnacheiddio syniadau arloesol a helpu i greu busnesau blaengar eraill yng Nghymru."

Nod Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yw helpu cwmnïau yn ystod pob cam o ddatblygiad yng Nghymru a thu hwnt i wireddu eu huchelgais ac i dyfu, i ffynnu ac i ysgogi twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg ac amaeth-dechnoleg. Ariennir datblygiad uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n werth £40.5m, gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (rhan o UKRI) a chan Brifysgol Aberystwyth.