Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn sicrhau Tenant Newydd, Phytatec Cyf

11/12/2017
Ben Jones
Office space at AberInnovation

Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (CAMA) yn falch o groesawu ail denant amser llawn, sef Phytatec Cyf, sy’n gwmni bioburo integredig. Mae’r cam hwn yn ddatblygiad cydweithredu hirdymor rhwng Phytatec Cyf a Phrifysgol Aberystwyth, lle mae ei sylfaenydd, Dr. Steve Bowra yn cydweithredu â staff academaidd ym meysydd gwella cnydau a bioburo ers nifer o flynyddoedd.

Bu Phytatec Cyf yn gweithio yn y sector biowyddorau ers Gorffennaf 2002, gan ddatblygu technolegau sy’n cefnogi trosglwyddo i fio-economi. Rhagfyr 1af 2017 fydd dyddiad cyntaf tenantiaeth y cwmni  ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth, gan ymuno â’r gymuned fusnes gynyddol yng nghanolbarth Cymru.

Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sydd wedi ei leoli ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i gydweithredwyr a phartneriaid, yn cynnwys cyfleuster bioburo a biobrosesu; canolfan gwyddoniaeth ddadansoddol uwch; a chanolfan bwyd y dyfodol. Cyn i’r prif brosiect adeiladu gael ei gwblhau, mae’r Campws eisoes yn gartref i swyddfeydd wedi’u dodrefnu lle gall tenantiaid fel Phytatec Cyf gwrdd ag arloeswyr tebyg a mwynhau mynediad at arbenigedd sy’n arwain y byd yn y sectorau technoleg amaeth a biowyddorau.

Meddai Dr. Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Rwyf wrth fy modd fod Phytatec yn denantiaid ar y Campws Arloesi ac yn ystyried eu presenoldeb yn elfen bwysig o’u gweithgareddau bioburo integredig cyflym yn y DU. Edrychwn ymlaen at weld Dr. Bowra a’i gydweithwyr yn rhwydweithio â’n tenantiaid eraill ac yn elwa o rwydwaith y gymuned fusnes sydd gennym yma.”

“Bydd ein swyddfeydd yn apelio at gwmnïoedd sydd am dyfu a chyflwyno syniadau newydd i’r farchad. Bydd ein cyfleusterau, sydd wedi’u hadnewyddu i safon uchel iawn, yn arbennig o addas ar gyfer cwmnïoedd sy’n dymuno bod yn rhan o gymuned fusnes gynyddol yn y sectorau biowyddorau a thechnoleg amaeth,” ychwanegodd.

Dywedodd Dr. Steve Bowra, Rheolwr-Gyfarwyddwr Phytatec Cyf: “Mae'r datblygiad Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a'r bloc swyddfa yn cynrychioli llwyfan delfrydol lle y gallwn barhau i feithrin perthynas agos gydag arweinwyr prosiect o fewn y grwpiau biotechnoleg a bridio planhigion er mwyn budd pawb.”

Mae datblygiad uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n costio £40.5M, yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth.