Prifysgol Aberystwyth


Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol hynaf Cymru, sy’n adnabyddus drwy’r byd am ymchwil arloesol ac amgylchedd dysgu eithriadol.

Mae stori arloesi a menter yn Aberystwyth yn dechrau yn 1872 gyda sefydlu Prifysgol Cymru. Yn yr un ddegawd, gosododd yr Athro Henry Tanner o’r Coleg Amaethyddiaeth Brenhinol a Harry Parnall, Is-Lywydd y Brifysgol, amaethyddiaeth ar y cwricwlwm, ac yn ddiweddarach cyhoeddwyd ‘Egwyddorion Amaeth’ yn Gymraeg a Saesneg.

Yn agos i ganrif a hanner o fio-wyddoniaeth chwyldroadol yn ddiweddarach, mae arloesedd yn parhau’n ganolog yn economi gwybodaeth y DU, ond mae llawer o gwmnïau’n dal i gael anhawster i uwchraddio datblygiad eu technolegau arloesol.

Ein gweledigaeth wrth adeiladu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yw dod â’r arbenigedd hon, ynghyd â chyfleusterau newydd wedi’u diweddaru, i fyd busnes Cymru a thu hwnt, er mwyn i gwmnïau allu lansio eu cynhyrchion yn y farchnad yn gynt, a ffynnu, gan greu swyddi a mantais gystadleuol yn y rhanbarth.

Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Dilynwch ni