Bore Coffi Mawr Macmillan

Swyddfeydd CAMA
September 28, 2018

Event time: September 28, 2018 - 12:00pm - 1:00pm

Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad rhwng Tîm AberInnovation a thenantiaid/aelodau'r Bloc Swyddfa, lle cymerodd grŵp bach (ond hynod effeithiol!) ohonom ran mewn casglu sbwriel ar hyd traeth y Borth. Gellir gweld ein hymdrechion ar ein gwefan yma: https://www.aberinnovation.com/cy/newyddion/casglu-sbwriel-gyda-aberinnovation-yn-nhraeth-y-borth/.

Rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n amser da i gynnal digwyddiad arall felly rydyn ni wedi penderfynu cynnal Bore Coffi Mawr er mwyn cynorthwyo Gofal Canser Macmillan. Rydan ni'n siŵr eich bod i gyd wedi gweld/clywed yr hysbysebion: mae'r Bore Coffi Mawr eleni yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener 28ain o Fedi a bydd ein "siop goffi" ni ar agor o 12yp - 1yp yng nghyntedd ein bloc swyddfeydd.

Croeso wrth gwrs i chi wahodd unrhyw un arall – dewch yn llu!