Pecynnau Aelodaeth
Gyda thua 200 metr sgwâr o lety swyddfa proffesiynol ar gael, dewch i ymuno â’n cymuned o arloeswyr cydnaws.
Cliciwch ar un o'r pecynnau aelodaeth isod i ddarganfod mwy am fuddion dod yn Aelod o ArloesiAber.
Pecyn Aelodaeth Preswyl
Mae’r Pecyn Aelodaeth Preswyl llawn yn cynnwys:
- Swyddfa wedi’i dodrefnu’n llawn a llinell ffôn tir
- Mynediad electronig 24/7 i’r adeilad ac oriau gwaith heb gyfyngiadau
- Swyddfa breifat y gellir ei chloi
- Gwresogi, trydan, golau â synwyryddion a diogelwch
- Cyswllt gwe cyflymder uchel diogel
- Defnydd o gyfleusterau Ystafell Gyfarfod – gellir eu harchebu heb gost ychwanegol, os ydynt ar gael
- Mannau cyffredin gan gynnwys cegin a chaffi ar y safle
- Gofod parcio penodol
Gwasanaethau ychwanegol a godir ar denantiaid ar sail eu defnydd unigol bob mis: munudau llinell ffôn tir
Manteision Pecyn Aelodaeth Preswyl:
- Swyddfa breifat broffesiynol olau, helaeth a newydd ei hadnewyddu
- Hysbyseb i’ch cwmni ar ardal ‘Preswylwyr’ gwefan y Campws Arloesi a Menter
- Presenoldeb llawn amser mewn cymuned o fusnesau a gwyddonwyr
- Symud i mewn a dechrau gweithio ar unwaith
- Gallu manteisio ar ddigwyddiadau
- Glanhau a chynnal a chadw wedi’u cynnwys
- Cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu
Cysylltu
Am mwy o wybodaeth cysylltwch gyda aelod o’r tîm ar 01970 621809 neu ebostiwch [email protected]
Pecyn Aelodaeth Cyswllt
Mae’r Pecyn Aelodaeth Cyswllt llawn yn cynnwys:
- Gofod Swyddfa wedi’i ddodrefnu’n llawn i’w rannu
- 40 awr o fynediad i’r adeilad swyddfa bob mis yn ystod oriau gwaith
- Gwresogi, trydan, golau â synwyryddion a diogelwch
- Cyswllt gwe cyflymder uchel diogel
- 4 awr y mis o ddefnydd o gyfleusterau Ystafell Gyfarfod – gellir eu harchebu os ydynt ar gael
- Mannau cyffredin gan gynnwys cegin a chaffi ar y safle
- Gofod parcio penodol (os yw ar gael)
Manteision Pecyn Aelodaeth Cyswllt:
- Desg benodol pan fyddwch chi’n gweithio ar y Campws neu’n ymweld
- Symud i mewn a dechrau gweithio ar unwaith
- Cyfeiriad ac amgylchedd gwaith proffesiynol ymhlith busnesau cydnaws
- Hysbyseb i’ch cwmni ar ardal ‘Cyswllt’ gwefan y Campws Arloesi a Menter
- Glanhau a chynnal a chadw wedi’u cynnwys
- Cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu
- Gallu manteisio ar ddigwyddiadau ar y Campws
- Rhywle i gynnal cyfarfodydd gyda chydweithwyr ac eraill sy’n cydweithio
* Gwasanaethau ychwanegol a godir ar denantiaid ar sail eu defnydd unigol bob mis: munudau llinell ffôn tir, copïo/sganio a chyfleuster argraffu
Cysylltu
Am mwy o wybodaeth cysylltwch gyda aelod o’r tîm ar 01970 621809 neu ebostiwch [email protected]
Pecyn Aelodaeth Rhithiol
Mae’r Pecyn Aelodaeth Rhithiol llawn yn cynnwys:
- Defnydd o’n Rhwydwaith Preifat Rhithwir a band eang diwifr pan fyddwch ar y campws
- Defnydd o ystafelloedd cyfarfod y gellir eu harchebu (os ydynt ar gael; ceir gostyngiad o 50% ar gyfraddau safonol)
- Hysbyseb i’ch cwmni ar ardal ‘Rhith-Aelodau’ gwefan y Campws Arloesi a Menter
- Cyfeirio at ddarparwyr cymorth busnes
- Negeseuon ebost rheolaidd yn hyrwyddo digwyddiadau perthnasol
Manteision Pecyn Aelodaeth Rhithiol:
- Cynnig lleoliad i’w ddefnyddio wrth ymweld â’r Campws
- Hysbyseb i’ch cwmni ar ardal ‘Rhith-Aelodau’ gwefan y Campws Arloesi a Menter
- Rhywle i gynnal cyfarfodydd gyda chydweithwyr ac eraill sy’n cydweithio
- Gallu manteisio ar ddigwyddiadau ar y Campws
- Dechrau gweithio ar unwaith