Polisi Preifatrwydd AberInnovation

Polisi Preifatrwydd AberInnovation

CWCIS

Ffeiliau data bach wedi’u rhoi ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan y gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw yw cwcis. Mae cwcis yn ein helpu i gynnal gwefan a phrofiad ar-lein o ansawdd uchel i’n defnyddwyr, ac mae rhai yn casglu gwybodaeth am ymddygiad pori ein defnyddwyr. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad ein defnyddwyr a’u siwrneiau ar ein gwefan, sydd yn ei dro yn sail i’n penderfyniadau o ran cynllun a chynnwys y safle. Mae’r wybodaeth a gasglwn (sydd hefyd yn weladwy i westeiwr ein gwefan UserFusion*) yn cynnwys cyfeiriad IP defnyddwyr, y tudalennau yr ymwelir â nhw, y porwr a’r system weithredu. Ni ddefnyddir y data i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol.

*UserFusion yw gwesteiwr ein gwefan, felly trwy rannu eich data ar y wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i’r wybodaeth hon fod yn weladwy i UserFusion yn ogystal.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli sut mae cwcis yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur. I ddysgu mwy, ewch i allaboutcookies.org.

GOOGLE ANALYTICS

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr i fod yn sail i’n penderfyniadau ynghylch cynllun a chynnwys y wefan. Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg sy’n cael ei ddarparu gan Google Inc. Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis a chod JavaScript i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Mae’r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau, a’u cadw yno.

Mae Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu adroddiadau am weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am ein gwefan, megis pa gynnwys sy’n boblogaidd, a llwybrau ein defnyddwyr ar y safle. Ceidw Google yr hawl i roi’r wybodaeth hon i drydydd partïon pan fydd y gyfraith yn mynnu hynny, neu lle bydd trydydd partïon yn prosesu’r data ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata a oedd yn cael ei gadw’n flaenorol. Gallwch analluogi defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol yn eich porwr; fodd bynnag, gall hyn olygu na fydd gwefannau yn gweithio yn unol â’u bwriad. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i Google brosesu data amdanoch yn y ffordd ac ar gyfer y dibenion a ddisgrifir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd a Thelerau Gwasanaeth for more information.

RHESTR BOSTIO

Defnyddiwn MailChimp ar gyfer rheoli ein rhestr bostio ac ymgyrchoedd e-bost. Mae MailChimp wedi ei ardystio i Fframwaith Tarian Breifatrwydd UE-UDA a Fframwaith Tarian Breifatrwydd Swisdir-UDA ac rydym wedi llofnodi eu cytundeb prosesu data a ddiweddarwyd yn ddiweddar.

Bydd pob un o’n negeseuon e-bost yn cynnwys dolen gyswllt ar gyfer dad-danysgrifio o’r rhestr bostio.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd a Thelerau Defnyddio MaiLChimp am ragor o wybodaeth.

DATGANIAD RHEOLIAD DIOGELU DATA CYFFREDINOL

Wrth ymuno â rhestr bostio AberInnovation:

Bydd y manylion a roddwch yn cael eu cadw ar fas-data MailChimp. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i anfon gwahoddiadau atoch i ddigwyddiadau a newyddion am AberInnovation.

Os byddwch yn optio i mewn, o dro i dro mae’n bosibl y byddwch yn derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau a newyddion sydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i chi. Gallwch ddewis ‘Dad-danysgrifio’ ar unrhyw adeg drwy ddilyn y ddolen gyswllt ‘Dad-danysgrifio’ a welir ym mhob gohebiaeth.

Ac eithrio pan fydd y gyfraith yn mynnu hynny, neu er mwyn prosesu eich gohebiaeth, ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon heb eich caniatâd. Rydym yn parchu eich data ac yn cymryd diogelu data o ddifrif.

Hoffem eich atgoffa bod gennych hawl i weld unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch, yn ogystal â hawl i gywiro unrhyw gamgymeriadau. Ar ben hynny, gallwch ofyn i ni ddileu data amdanoch unrhyw bryd.

Trwy gofrestru ar gyfer rhestr bostio AberInnovation neu ddefnyddio gwefan AberInnovation, rydych yn rhoi caniatâd i ni gadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r hysbysiad hwn.