Mae bod yn rhan o ArloesiAber yn cynnig cyfle unigryw i rwydweithio â sefydliadau o'r sector busnes ac ymchwil. Pan ymunwch ag ArloesiAber, nid mynediad i gyfleusterau corfforol yn unig a gewch chi, ond rydych chi'n dod yn aelod o rwydwaith lle gallwch gyrchu gweithdai, digwyddiadau, cyfleoedd cyllido, a mwy.
Mae ArloesiAber wedi darparu cymaint mwy na chartref i'n menter gymdeithasol newydd. Mae'r tîm yn cynnig ystod eang o arbenigedd a chefnogaeth i entrepreneuriaid, o gyngor anffurfiol i ddigwyddiadau wedi'u curadu'n dda ac maent yn ased enfawr i'n cymunedau busnes lleol a chenedlaethol.
Mae'r tîm yn ArloesiAber wir yn deall anghenion technegol, busnes, cymdeithasol ac economaidd ARCITEKBio. Mae'r tîm profiadol yn parhau i'n synnu gyda chefnogaeth fewnol ddiwyro sy'n darparu ar gyfer ein hanghenion busnes strategol. Mae rhwydwaith cryf ArloesiAber wedi ac yn parhau i gynorthwyo gweledigaeth a thwf tymor hir ARCITEKBio.