Y Cwmni Tenant cyntaf yn cyd-leoli ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth

29/06/2017
Douglas Owen
Dr Rhian Hayward and Richard Glover Davies

Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn falch iawn o groesawu’r cwmni tenant cyntaf i gymryd lle amser-llawn yn ei swyddfeydd sydd newydd gael eu hadnewyddu.

Bydd Gloversure Cyf, cwmni arobryn sydd â’i bencadlys yn y Trallwng ac sy’n gweithio yn y diwydiant rhyngrwyd / telathrebu ers mis Gorffennaf 2004, yn cychwyn tenantiaeth ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth o fis Mehefin 2017 i feithrin ei uchelgeisiau gyda’i ddatblygiadau mewnol ym maes technoleg amaeth ac i recriwtio graddedigion medrus o Brifysgol Aberystwyth.

Wedi’u lleoli 3 milltir yn unig o dref Aberystwyth, bydd y swyddfeydd newydd yn cynnig cysylltiadau eithriadol i’r arbenigedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y swyddfeydd yn apelio at gwmnïau sy’n awyddus i dyfu ac i ddod â syniadau newydd i’r farchnad. Bydd y cyfleuster, a adnewyddwyd i safon uchel, yn darparu’n benodol ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno bod yn rhan o gymuned fusnes sy’n tyfu yn sectorau’r biowyddorau a thechnoleg amaeth.

Dwedodd Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn o groesawu Glovesure fel ein tenant cyntaf. Mae gan y cwmni enw ardderchog a hanes eithriadol o gyflawni yn eu maes, ac maent yn awyddus i ehangu eu cynllun datblygu mewnol. Byddwn yn eu cefnogi cymaint â phosib i gyflawni’r amcanion hyn, ac rydyn yn falch bod Glovesure yn aelod sylfaenol o’n cymuned”.

Dwedodd Richard Glover Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Gloversure: “Rydym yn edrych ymlaen at helpu mwy o fusnesau yn ardal Aberystwyth a phrosiectau o fewn y Brifysgol. Rydym wedi bod yn awyddus i agor swyddfa yn ardal Aberystwyth ers blynyddoedd - a gyda chynifer o dîm Glovesure wedi graddio o’r Brifysgol dros y blynyddoedd, rydym yn hynod falch ein bod wedi agor swyddfa yn y Brifysgol. Mae’r adnoddau yn wych a buaswn yn ei argymell i unrhyw fusnes sy’n chwilio am gyfleuster o’r fath.”

Mae’r swyddfeydd newydd yn rhan o brosiect Campws Arloesi a Menter £40.5m Aberystwyth; un o’r datblygiadau isadeiledd mwyaf yng Cymru mewn blynyddoedd diweddar, a fydd yn sbardun i dwf economaidd. Bydd y Campws Arloesi yn cynnig adnoddau technolegol i gefnogi arloesedd yn y sectorau bwyd a diod, bioburo a biotechnoleg ledled Cymru a thu hwnt. Bydd y Campws, y bwriedir ei gwblhau yn 2019, yn croesawu cwmnïau o gadwyni cyflenwi ledled y Deyrnas Gyfunol, ac yn cynorthwyo’r gymuned o fusnesau lleol i feithrin cysylltiadau ehangach a phartneriaethau newydd.