Penodi Prif Gontractwr i adeiladu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth

25/01/2017
Douglas Owen
Willmott Dixon - Principle Contractor for AIEC

Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC) wedi cymryd cam mawr ymlaen yn sgil penodi Prif Gontractwr.

Dyfarnwyd y Cytundeb Gwasanaethau Cyn Adeiladu i gwmni adeiladu Willmott Dixon ar ôl cynnal proses gaffael gystadleuol. Bydd y prosiect yn elwa ar brofiad aruthrol y cwmni, sydd eisoes wedi cwblhau prosiectau adeiladu cyfalaf i’r sectorau gwyddonol ac addysgol yng Nghymru.

Ariennir Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth, a bydd yn darparu adnoddau sy’n arwain y byd ynghyd ag arbenigedd i greu atebion masnachol i’r diwydiant technoleg amaeth.

Bydd Willmott Dixon yn cydweithio’n agos â thîm dylunio’r prosiect dros y misoedd nesaf i ddatblygu ymhellach ddyluniad technegol manwl i’r campws newydd.

“Ar ôl cynnal proses gaffael drylwyr, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod cwmni adeiladu Willmott Dixon wedi’i benodi’n Brif Gontractwr i adeiladu’r Campws Arloesi a Menter. Mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir bwysig i’r prosiect ac yn dod â ni gam yn nes at wireddu’r weledigaeth,” meddai Huw Watkins, Cyfarwyddwr Prosiect AIEC.

Ar ran cwmni adeiladu Willmott Dixon, dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Neal Stephens, “Byddwn yn cydweithio â’r tîm dylunio, ac yn defnyddio ein profiad a’n gallu i ddarparu’r atebion gorau i Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth a’i adnoddau sydd gyda’r gorau yn y byd i sbarduno twf yn yr economi.”

Ymhlith yr adnoddau y bwriedir eu darparu ar y Campws Arloesi a Menter mae Canolfan Bio-buro, Canolfan Bwyd y Dyfodol, labordai Gwyddor Ddadansoddol ac adnodd Prosesu Hadau a Bio-fanc. Bydd yno hefyd fannau cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol a swyddfeydd/labordai i gwmnïau sy’n ymroddedig i arloesi. Bydd y Campws yn meithrin y galluoedd sydd eisoes ar gael yn Athrofeydd Prifysgol Aberystwyth, ac yn cydweithio’n arbennig o agos ag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i’w gwneud yn haws manteisio ar y galluoedd ymchwil rhagorol sydd ar gael ar hyn o bryd ac i lywio blaenoriaethau ymchwil drawsfudol yn y dyfodol.

Mae un o adeiladau presennol Campws Gogerddan a fydd yn rhan o’r Campws Arloesi a Menter eisoes wedi’i ailwampio i safon uchel ac mae yno dros 300m2 o swyddfeydd ar gael i’r gymuned fusnes eu rhentu. Mae’r cyfleuster wedi’i foderneiddio’n benodol i gwmnïau sydd am weithio ar yr un safle ag ymchwilwyr blaenllaw yn sectorau’r biowyddorau a thechnoleg amaeth.

Bydd y datblygiad newydd ar Gampws Gogerddan yn cynnig amgylchedd blaengar i helpu i sicrhau bod cydweithredu rhwng byd busnes a’r byd academaidd yn ffynnu ac yn cynnig ystod o adnoddau o safon uchel i gynnal gwaith ymchwil drawsfudol ac arloesi, lle y gall mentrau masnachol dyfu, ffynnu a sbarduno twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru a thu hwnt.

Mae cais cynllunio terfynol wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion a disgwylir y penderfyniad yn ystod gwanwyn 2017. Os ceir caniatâd cynllunio, y bwriad yw dechrau’r gwaith adeiladu ganol 2017 a disgwylir y bydd wedi’i gwblhau ymhen dwy flynedd.