Dod â Chwmnïau at ei gilydd mewn Digwyddiad ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth ym mis Tachwedd
Cynhaliodd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC) ddigwyddiad Cynllunio Busnes a Chynnig Syniadau ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth ar 30 Tachwedd.
Fel rhan o’i ymrwymiad i helpu cwmnïau partner a thenantiaid drwy ddod â’r gymuned cymorth busnes atynt, mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn cynnal digwyddiadau a gweithdai rheolaidd i fusnesau a mentergarwyr.
Yn ogystal â chinio rhwydweithio i’r mynychwyr, roedd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cynnwys cyflwyniadau gan dri siaradwr gwadd: Jeff Bartlett, Nurture Ventures; Julian Sanders, Sanders Design; a Zoe Reich o Fanc Datblygu Cymru. Trafodwyd amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ‘Hanfodion Ymgysylltu â Chwsmeriaid’, ‘Arloesi, Dylunio a Brandio’, a ‘Pharodrwydd i Fuddsoddi’.
Dywedodd Rhian Hayward, Prif Weithredwr y Campws Arloesi a Menter: “Bu’n bleser cael croesawu cynifer o wynebau newydd i adeilad y Campws Arloesi yn un o’n digwyddiadau. Ein nod yw darparu canolbwynt ar gyfer y gymuned fusnes yn y canolbarth a chynorthwyo cwmnïau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i dyfu ac i lwyddo. Mae rhwydweithio a meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal llawer mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol."
Gall y tenantiaid ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth fwynhau llu o gyfleoedd i rwydweithio gydag arloeswyr o’r un anian â nhw, yn ogystal â manteisio ar arbenigedd o safon fyd-eang yn y sectorau technoleg amaeth a’r biowyddorau. Yn ogystal â chynnal gweithdai a digwyddiadau, mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth hefyd yn cynnig gofod swyddfa wedi’i ddodrefnu’n llawn ar ei safle a adnewyddwyd yn ddiweddar.
Wrth drafod llwyddiant y digwyddiad, dywedodd y prif siaradwr, Jeff Bartlett: "Cafwyd trafodaethau ardderchog yn y gweithdy Cynllunio Busnes a Chyflwyno Syniadau ddoe, ac roedd yn braf gweld cymaint o bobl yn dod i’r digwyddiad. Mae hyn yn pwysleisio cymaint o botensial sy’n bodoli yng ngorllewin Cymru, ac roedd yr amrywiaeth o syniadau busnes arloesol ymhlith y mynychwyr yn eang iawn."
Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, y bwriedir ei gwblhau erbyn diwedd 2019, yn adnodd o’r radd flaenaf a fydd yn denu cyllid ymchwil preifat a chystadleuol fel bod cwmnïau ac ymchwilwyr yn medru cydweithio ar brosiectau ymchwil i hybu’r bio-economi. Mae’r Campws yn tanlinellu ymroddiad Prifysgol Aberystwyth i sicrhau mwy o ymchwil rhyngddisgyblaethol ac arloesedd mewn dyfodol sy’n canolbwyntio fwyfwy ar ymchwil a datblygu traws-sector i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd.
Ariennir prosiect uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n werth £40.5M, gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth.