Digwyddiad Ymgynghori Cymunedol Llwyddiannus wedi’i gynnal ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth

20/10/2016
Douglas Owen

Cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth ac AIEC Cyf Ddigwyddiad Ymgynghori Cymunedol yn Neuadd y Pentref, Penrhyncoch ddydd Mawrth 18 Hydref fel rhan o gyfnod ymgynghori 28-diwrnod ar y cais cynllunio drafft ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i unrhyw bartïon â diddordeb glywed mwy am y gwelliannau arfaethedig i gampws presennol Gogerddan. Fe wnaeth hefyd ddarparu adborth hynod defnyddiol i dîm y prosiect i’w helpu i baratoi’r cais cynllunio terfynol, a gyflwynir tua diwedd 2016.

Wrth siarad ar ran Tîm y Prosiect, dywedodd Huw Watkins, Cyfarwyddwr y Prosiect; “roeddem yn falch iawn o weld cymaint o bobl yn dod i’r digwyddiad, ac mae’n dangos bod yna ddiddordeb gwirioneddol ynglŷn â Champws Arloesi a Menter Aberystwyth. Cawsom adborth gwerthfawr oddi wrth y trigolion lleol a pherchnogion busnesau, gyda phwyslais penodol ar welliannau i’r ffordd fawr, ac fe fyddwn yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion yn ystod y cyfnod ymgynghori i geisio dod o hyd i ateb a fydd yn gweithio i’r holl randdeiliaid.”

Bydd y Campws Arloesi a Menter, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, a chan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth, yn darparu adnoddau o safon fyd-eang ynghyd â’r arbenigedd i greu atebion masnachol ar gyfer y diwydiant technoleg amaeth.

Mae’r adnoddau arfaethedig ar gyfer y Campws yn cynnwys Canolfan Bio-buro, Canolfan Bwyd y Dyfodol, labordai Gwyddoniaeth Ddadansoddol a Bio-fanc Hadau a Chyfleuster Prosesu. Bydd hefyd yn darparu mannau ffurfiol ac anffurfiol i gynnal cyfarfodydd a swyddfeydd at ddefnydd cwmnïau.

Bydd y Campws yn sbarduno twf economaidd yn yr ardal a thu hwnt trwy greu swyddi uchel eu gwerth a chymuned o gwmnïau llewyrchus sy’n seiliedig ar wybodaeth. Bydd yn adeiladu ar yr adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn Athrofeydd y Brifysgol, gan gydweithio’n arbennig o agos gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i wella’r adnoddau ymchwil ardderchog a gynigir ar hyn o bryd.