Cynhaeaf Proffidiol InvEnterPrize i Egin-fusnes Amaeth

04/04/2019
Ben Jones

Menter newydd i gynorthwyo ffermwyr Colombia i wella cynhyrchiant cnydau yw enillydd diweddaraf InvEnterPrize, cystadleuaeth ar ffurf ‘Dragon’s Den’ i fyfyrwyr mentrus Prifysgol Aberystwyth.

Datblygwyd Amigrow gan dîm rhyng-ddisgyblaethol dan arweinyddiaeth myfyrwraig PhD o Golombia, Liliana Castillo.

Ei nod yw defnyddio technoleg lloeren a dysgu peirianyddol i gynorthwyo ffermwyr gyda’u penderfyniadau.

Ynghyd â theitl InvEnterPrize 2019, mae Amigrow yn derbyn £10,000 i’w fuddsoddi er mwyn datblygu’r cysyniad a’i baratoi ar gyfer y farchnad.

Mewn ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Liliana: “Mae ennill InvEnterPrize yn bwysig iawn i ni, does dim geiriau i ddisgrifio’r teimlad.”

“Cychwynnodd y syniad gyda’m mhrofiad amaethyddol yng Ngholombia. Gyda chefnogaeth InvEnterPrize rydym yn edrych ymlaen at ddechrau profi galluoedd Amigrow. Rydym am ddatblygu’r prototeip yn gyntaf a’i ddatblygu er mwyn gweld yn iawn beth sy’n gweithio neu ddim, a chynhyrchu rhywbeth ystyrlon i’r ffermwyr fel eu bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ar yr amser iawn a chynhyrchu elw gwell.”

“Mae Colombia’n wlad amrywiol iawn,” ychwanegodd Liliana. “Mae gennym amgylcheddau gwahanol iawn ar gyfer mathau gwahanol o gnydau. Rydym am ddechrau’r broses gyda chynhyrchwyr reis, sy’n hynod bwysig am fwydo pobl Colombia a’r byd.”

Roedd cynllun busnes Amigrow yn un o bymtheg cais ar gyfer InvEnterPrize 2019, gyda chwech yn cyrraedd y rownd derfynol ac yn cyflwyno’u syniadau i’r beirniad ddydd Gwener 29 Mawrth 2019.

Dywedodd Cadeirydd y beirniaid, Donald Davies, Athro Emeritws mewn Toxicoloeg yng Ngholeg Imperial Llundain: ”Rydym yn hynod falch o gyhoeddi mai Amigrow yw enillydd InvEnterPrize 2019; llongyfarchiadau gwresog i Liliana a’r tîm â’r fenter.

“Mae InvEnterPrize yn gystadleuaeth ardderchog sy’n dangos y myfyrwyr ar eu gorau, ac eleni profodd yn un o’r anoddaf i’w beirniadu gyda’r chwech yn y rownd derfynol yn gwneud cyflwyniadau ardderchog. Mae’n amlwg ei bod yn ysbrydoli myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i fentro a datblygu syniadau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn maent yn ei wneud fel arfer. Mae mor bwysig i hau’r syniad y gall myfyrwyr ddatblygu’n fusnes, ac mae’r gystadleuaeth hon, ynghyd â’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i’r timau drwy’r flwyddyn gan wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn gwneud hyn i gyd yn bosib.”

Dywedodd trefnydd InvEnterPrize a hyrwyddwr menter ym Mhrifysgol Aberystwyth, Tony Orme: “Mae safon y ceisiadau eleni wedi bod yn eithriadol o uchel ac fe brofodd y rownd derfynol hynny. Rydym yn eithriadol ddiolchgar i’n panel o feirniaid am eu hamser gwerthfawr a’u harbenigedd wrth i ni chwilio am enillydd, ac i gyn-fyfyrwyr y Brifysgol am eu cefnogaeth ariannol a gwneud hyn oll yn bosibl drwy Gronfa Aber. Edrychwn ymlaen at weithio gydag Amigrow a Liliana wrth iddynt ddatblygu’r cysyniad.”

Profodd Amigrow fwy o lwyddiant yn InvEnterPrize 2019 wrth iddynt ennill gofod swyddfa am flwyddyn yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth, datblygiad £40.5m ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwynwyd y wobr, a roddwyd am y cyflwyniad gorau ym maes diwydiant technoleg amaeth a’r sector biowyddoniaeth, gan Dr Rhian Hayward, Prif Weithredwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth.

Bellach yn ei 6ed blwyddyn, sefydlwyd InvEnterPrize, i annog diwylliant o fentro ymhlith myfyrwyr.

Mae’r wobr o £10,000, a ddarperir gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber, yn galluogi’r enillydd i fuddsoddi mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r ddyfais neu syniad cychwyn busnes.

Yn ogystal cafodd ymgeiswyr gyfleoedd i gael cyngor arbenigol a mynychu cyfres o weithdai a chyflwyniadau gan bobl fusnes llwyddiannus, wrth iddynt ddatblygu eu cynigion terfynol, gan dderbyn cyngor gwerthfawr ar hyd y daith.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff. Mae rhagor o wybodaeth am AperPreners ar y wefan.

Beirniaid InvEnterPrize 2019
Donald Davies (Chair) – Athro Emeritws mewn Toxicoloeg yng Ngholeg Imperial Llundain a Sefydlwr Gyfarwyddwr ML Laboratories plc, un o’r cwmnïoedd biotechnoleg cyntaf i’w restri ar Farchnad Stoc Llundain.

Jane Clayton – Cyfrifydd Siartredig a Chyfarwyddwr anweithredol profiadol. Cadeirydd Bay Leisure Limited a Thrysorydd Sefydliad Meddygol Dewi Sant.

Nigel Davies – Wedi graddio a chwblhau ei astudiaethau ol-raddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio ym myd technoleg a busnes am 30 mlynedd. Yn 2003 roedd yn gyfarwyddwr sefydlu Innoval Technology, cwmni ymgynghori o’r DU ym maes technoleg sydd â chwsmeriaid ar draws y byd.

Huw Morgan – Cyn-Bennaeth Bancio Busnes gyda HSBC, bu Huw yn gweithio i HSBC am y rhan fwyaf o’i yrfa waith. Yn fwy diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfraint (Franchise) yn y DU.

David Sargen – Partner Rheoli gyda Derivatives Risk Solutions LLP, ymgynghoriaeth risg arbenigol sydd yn darparu arbenigedd ar draws sbectrwm eang o ddisgyblaethau o fewn y byd ariannol, gyda ffocws arbennig ar y farchnad deilliadau fyd-eang.

Kerry Diamond – Cadeirydd Bwrdd Datblygu Diwydiannol Ymgynghorol Cymreig, sydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gymorth grantiau i fusnes, Ymgynghorydd Gwella Busnes ac Is-Gadeirydd Partneriaeth Menter Leol Stoke and Staffs. Cyn-Brif Swyddog Ariannol Zytec, cwmni ceir perfformiad uchel.

Mae pob un o’r beirniaid yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth.