Cymuned Fusnes y Canolbarth yn Mynychu Digwyddiad ar Reolaeth Ariannol

29/05/2018
Ben Jones
Aberystwyth Innovation and Enterprise Campus

Ar ddydd Iau 12 Ebrill 2018, croesawodd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gwmnïau i’w digwyddiad diweddaraf i gynorthwyo busnesau, ar thema rheolaeth ariannol ac arferion gorau.

Roedd y gweithdy ‘Rheoli Arian ar gyfer Twf’ yn cynnwys pedwar cyflwyniad, a ddechreuodd drwy edrych ar y ffordd orau o drefnu cyllid cwmni newydd a phwysigrwydd rhagolygon gwerthiant cywir a realistig i sicrhau bod y cwmni’n tyfu. Yna, cafwyd cyflwyniad ar sut i ennill buddsoddiadau trwy reolaeth ariannol gadarn. Daeth y gweithdy i ben gydag astudiaeth achos gan Phil Horton, Rheolwr Gyfarwyddwr Dulas Ltd., yn pwysleisio sut mae rheoli costau gweithredu wedi galluogi i Dulas Ltd. ffynnu er gwaethaf amgylchedd polisi sy’n newid yn gyson.

Dywedodd Simon Longworth, Cyfarwyddwr Cyllid Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant UAC: “Mae’n braf gweld cwmnïau lleol yn dangos diddordeb yn yr ochr ariannol o redeg busnes yn llwyddiannus. Efallai nad yw’n un o’r pynciau mwyaf cyffrous, ond mae’n sicr yn un pwysig, a gall sicrhau bod y gweithdrefnau cywir ar waith arwain at fanteision sylweddol yn y dyfodol.”

Meddai Ben Jones, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Mae’n galondid mawr iawn gweld cymaint o bobl yn dangos diddordeb yn ein digwyddiadau cymorth busnes. Roedd yr adborth a gawsom ynglŷn a’r siaradwyr yn gadarnhaol dros ben, ac roedd yn hyfryd gweld y cwmnïau’n rhwydweithio â’i gilydd yn y digwyddiad. Mae amrywiaeth eang o gwmnïau a sefydliadau yn parhau i ddod i’n digwyddiadau, sy’n tystio i natur amrywiol entrepreneuriaeth yng nghanolbarth Cymru.”

Y digwyddiad nesaf ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth fydd ‘Marchnata Arloesol: Dosbarth Meistr’ a gynhelir ar 20 Mehefin 2018, ac a fydd yn cyd-ddigwydd â Gŵyl Arloesi Cymru, a fydd yn rhedeg rhwng 16 – 30 Mehefin.

Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn cynnig adnoddau o’r radd flaenaf i gefnogi arloesi, gan alluogi mentrau masnachol i dyfu, ffynnu a gyrru twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, biobrosesu a biotechnoleg ledled Cymru a thu hwnt. Bydd y cyfleusterau yn cynnwys canolfan wyddoniaeth ddadansoddol, cyfleuster biobrosesu a bioburo graddfa-beilot, a chanolfan bwyd y dyfodol o safon-bwyd. Yn ogystal â hyn, mae gofod swyddfa o amrywiol feintiau ar gael i’w llogi ar y Campws ar hyn o bryd, trwy becynnau tenantiaeth amrywiol, i gyd-fynd ag anghenion cwmnïau wrth iddynt ffynnu a thyfu.

Ariennir prosiect uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n werth £40.5M, gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth.