Cymuned Fusnes y Canolbarth yn dod at ei gilydd ar gyfer Digwyddiad Arloesi

19/02/2018
Ben Jones

Mewn digwyddiad o’r enw ‘Creu Amser Arloesedd: Blaenoriaethu Ymchwil a Datblygu i Lwyddo’, croesawodd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth pobl fusnes ar 9 Chwefror ar gyfer ei digwyddiad cyntaf o’r flwyddyn i gefnogi busnesau.

Ar sail adborth mynychwyr blaenorol, daeth y Campws â nifer o arbenigwyr o feysydd arloesi ac ymchwil a datblygu at ei gilydd i roi cyflwyniadau ar sut i feithrin meddylfryd arloesol, y credydau treth sydd ar gael i gwmnïau sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a datblygu penodol a nifer o fentrau sector cyhoeddus ar draws Cymru a all helpu busnesau i lwyddo yn y maes heriol o arloesi ac ymchwil a datblygu hapfasnachol.

Ar ôl cinio rhwydweithio, cafwyd cyflwyniadau gan bedwar siaradwr: Bruce Stanley, Embody Cyf; Simon Renault, Innovation Point (Casnewydd); Ian Mitchell, Cyfrifwyr Mitchell Meredith; a Chris Probert, Arbenigwr Arloesi yn Llywodraeth Cymru. Clowyd y digwyddiad gyda choffi a sesiynau trafod, a fu’n gyfle i’r mynychwyr gael sgwrs un-i-un ag unrhyw un o’r cyflwynwyr ac i ofyn cwestiynau am eu hanghenion penodol.

Dywedodd Ben Jones, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Roedd yna gymysgedd ardderchog o wynebau cyfarwydd a wynebau newydd yn y digwyddiad, ac roedd hynny’n galonogol i’w weld. Mae yna alw amlwg am ddigwyddiadau sy’n helpu busnesau i gymryd y camau nesaf i dyfu a ffynnu yn y canolbarth, ac rydym yn hynod falch ein bod yn gallu helpu i hwyluso hynny.”

Dywedodd Bruce Stanley, o’r cwmni ymgynghori Embody Cyf: “I mi, arloesi yw’r gweithgaredd mwyaf cyffrous y gall busnes ymgymryd ag ef, ac mae’n galondid mawr gweld cymaint o addewid yn y canolbarth. Mae’r busnesau a gynrychiolir yn y digwyddiadau hyn yn amrywiol, ac mae profiad a natur agored eu harweinwyr yn golygu bod dod ynghyd yn brofiad gwerthfawr iawn – ychwanegwch at hynny y weledigaeth ar gyfer dyfodol y Campws Arloesi ac mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i wneud hwn yn un o’r clystyrau entrepreneuraidd mwyaf arwyddocaol yn y DU.”

Bydd Campws Menter ac Arloesi Aberystwyth yn cynnig ystod o gyfleusterau ansawdd uchel i gefnogi arloesi, gan alluogi mentrau masnachol i dyfu, ffynnu a gyrru twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, biobrosesu a biotechnoleg ledled Cymru a thu hwnt. Bydd y cyfleusterau yn cynnwys canolfan wyddoniaeth ddadansoddol, cyfleuster biobrosesu a bioburo graddfa-beilot, a chanolfan bwyd y dyfodol o safon bwyd. Yn ogystal â hyn, mae gofod swyddfa o amrywiol feintiau ar gael i’w llogi ar y Campws ar hyn o bryd, trwy becynnau tenantiaeth amrywiol, ar gyfer cymuned o arloeswyr a mentergarwyr o’r un anian.

Ariennir datblygiad uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n werth £40.5M, gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth.