Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn cefnogi Dathliad Mawreddog Dydd Gŵyl Dewi a drefnir gan sefydliad Cymru yn Llundain

07/03/2017
Douglas Owen

Cafodd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (CAMA) cyf. yr anrhydedd o gefnogi dathliad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain yn Neuadd y Gorfforaeth ar yr 28ain o Chwefror 2017.

Rhoddodd Dr Timothy Brain OBE, Cadeirydd CAMA cyf, gyflwyniad i’r gwesteion ar y cynnig arfaethedig gan Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth i ddarparu arbenigedd ac ystod o gyfleusterau gorau’r byd er mwyn cefnogi arloesi.

Yn ogystal, rhoddodd Dr Brain amlinelliad o weledigaeth y prosiect, sef galluogi mentrau masnachol i dyfu, i ffynnu, a gyrru twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, bio-brosesu a biotechnoleg yng Nghymru a thu hwnt.

Ariennir y prosiect gwerth £40.5M gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Roeddem yn falch o noddi’r Dathliad Dydd Gŵyl Dewi a drefnwyd gan Gymru yn Llundain. Ysbrydoliaeth oedd cael dathlu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ym maes arloesi a menter gyda rhai o’i chefnogwyr cryfaf yn Llundain. Amlygodd y digwyddiad a drefnwyd gan sefydliad Cymru yn Llundain yr angerdd a’r balchder a deimla Cymry am dwf Cymru, ac roeddwn yn falch o dderbyn gymaint o sylwadau cefnogol gan gyd-westeion ar yr agenda arloesi yng Nghymru”

Mae digwyddiad blynyddol Dathliad Dydd Gŵyl Dewi Cymru yn Llundain, a ddechreuodd yn 1904, yn gyfle i Gymry sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain ddod ynghyd i ddathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae gan y digwyddiad draddodiad o ddenu pobl ddylanwadol iawn, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y gwir anrhydeddus Alun Cairns AS yn bresennol yn y dathliad eleni. Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Judge, cyn-Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, a Guto Harri, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Allanol Liberty Global, oedd y siaradwyr.

Dywedodd Gaenor Howells, a drefnodd y digwyddiad “Rwy’n gobeithio y bydd cyfeillion y Cinio yn cefnogi’r prosiect hwn - un y mae ei angen yn fawr yng Ngheredigion. Mae Cymru yn Llundain yn edrych ymlaen at gynnal ein perthynas gyda Champws Arloesi a Menter Aberystwyth.

Roedd y digwyddiad yn cyd-daro â 125 mlwyddiant Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth (OSA), sef un o’r cymdeithasau hynaf o’r math yn byd, gyda thros 9,000 o aelodau ar wasgar mewn dros 150 o wledydd ledled y byd.

Mae cais cynllunio terfynol ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion, a disgwylir penderfyniad yn y gwanwyn. Os rhoddir caniatâd cynllunio, dylai’r gwaith adeiladu ddechrau hanner ffordd trwy 2017 a disgwylir i’r gwaith gymryd dwy flynedd i’w gwblhau.