Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyfyngedig yn penodi ei Brif Swyddog Gweithredol cyntaf

25/11/2016
Douglas Owen
Chief Executive Officer - Dr Rhian Hayward MBE

Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyfyngedig yn falch iawn o gyhoeddi penodiad ei Brif Swyddog Gweithredol cyntaf.

Bydd Dr Rhian Hayward MBE yn cychwyn yn y swydd ym mis Ionawr 2017 ac yn arwain y fenter newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, a grëwyd i adeiladu a rhedeg y Campws Arloesi a Menter (AIEC) arfaethedig ar gyrion Aberystwyth.

Mae gan Dr Hayward gyfoeth o brofiad hynod berthnasol a enillwyd dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain yn gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn canolbwyntio ar ddod â chynnyrch i’r farchnad yn y sector gwyddorau bywyd. Mae’n ymgymryd â swydd y Prif Swyddog Gweithredol yn dilyn ei swydd ddiweddar fel Pennaeth Cyfnewid Gwybodaeth yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth.

Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, bu Dr Hayward yn gweithio yn y sector preifat yn rhedeg busnes ymgynghori a oedd yn cynghori buddsoddwyr, prifysgolion a busnesau bach a chanolig ynghylch masnacheiddio technolegau gwyddor bywyd cyfnod cynnar. Cyn hynny, cyflawnodd amryw rolau masnachol ym meysydd marchnata, datblygu busnes a rheoli cynnyrch yn y diwydiant biotechnoleg.

“Rwy’n falch iawn o’r cyfle i arwain Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a chynnig cyfle ardderchog i gwmnïau arloesi trwy gydweithio ag arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth” meddai Dr Hayward.

“Bydd y campws yn darparu adnoddau o safon fyd-eang yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd ar gyfer y gymuned gwyddorau bywyd gyfan. Rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo entrepreneuriaid, cwmnïau newydd a phartneriaid ym myd diwydiant gyda phrosiectau ehangu, i fanteisio ar adnoddau ac arbenigedd sy’n unigryw o ran eu hansawdd, eu graddfa a’u hamrywiaeth.”

Ar ôl ennill gradd BSc. dosbarth cyntaf mewn Bioleg o Goleg King’s, Llundain, a chwblhau ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, aeth Dr Hayward ymlaen i wneud ymchwil ôl-ddoethurol yn y National Institute of Health, Bethesda, Unol Daleithiau America. Ar ôl symud i fyd diwydiant, daliodd nifer o swyddi mewn cwmnïau newydd a deillio yn ne ddwyrain Lloegr.

Yn wreiddiol o Abertawe, dyfarnwyd MBE i Dr Hayward am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.

Fel Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyfyngedig, bydd Dr Hayward yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth weithredol a sicrhau cynaliadwyedd y campws newydd, a chyfrannu at sbarduno twf economaidd yn yr ardal a thu hwnt trwy greu swyddi uchel eu gwerth a chymuned o gwmnïau llewyrchus sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Dywedodd Dr Timothy Brain, Cadeirydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyfyngedig “Rydym yn hynod falch bod Dr Hayward wedi’i phenodi i’r swydd. Mae wedi dangos bod ganddi weledigaeth glir i sicrhau bod y Campws Arloesi a Menter yn llwyddo. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi.”

Bydd y Campws Arloesi a Menter, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, a chan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth, yn darparu cyfleusterau sy’n arwain y byd ynghyd â’r arbenigedd i greu atebion masnachol i’r diwydiant technoleg amaeth.

Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn adeiladu ar yr adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn Athrofeydd Prifysgol Aberystwyth, gan gydweithio’n arbennig o agos gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i wella’r adnoddau ymchwil ardderchog a gynigir ar hyn o bryd, a’u gwneud yn fwy hygyrch. Mae’r adnoddau arfaethedig ar gyfer y Campws yn cynnwys Canolfan Bio-buro, Canolfan Bwyd y Dyfodol, labordai Gwyddoniaeth Ddadansoddol a Bio-fanc Hadau a Chyfleuster Prosesu. Bydd hefyd yn darparu mannau ffurfiol ac anffurfiol i gynnal cyfarfodydd a swyddfeydd/labordai at ddefnydd cwmnïau.