Biofanc Hadau Newydd yn Weithredol

12/07/2019
Ben Jones

Roeddem yn falch iawn o nodi carreg filltir bwysig yn adeiladu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth y mis hwn wrth i'r Biofanc Hadau gael ei drosglwyddo. Ar ddydd Gwener 24 Mai, derbyniodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS, allweddi'r adeilad ar ran Prifysgol Aberystwyth, IBERS, a Bwrdd Prosiect CAMA.


Mae'r trosglwyddiad swyddogol yn golygu bod yr adeilad hwn bellach yn pasio'n swyddogol o berchenogaeth a chyfrifoldeb y contractiwr i'r Brifysgol. Bydd y broses o symud offer a deunyddiau o'r storfa hadau presennol yn dechrau nawr, a bydd yn cymryd pythefnos. Yn arwain ar y broses hon bydd Ben Ling, Dr. Danny Thorogood, a Dr. Lin Huang, gyda chefnogaeth aelodau Tîm Prosiect CAMA.