BioAccelerate wedi’i Lansio yn BioWales

16/03/2018
Ben Jones

Mae BioAccelerate, hwylusydd busnes cyntaf Cymru yn canolbwyntio ar fasnacheiddio gwaith arloesol ym meysydd y biowyddorau a gofal iechyd, yn chwilio am ei garfan gyntaf o ddeuddeg arloeswr cynnar.

Wedi ei lansio'n ffurfiol yn BioCymru 2018 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, cynhelir gweithdy cyntaf rhaglen BioAccelerate 19eg Ebrill 2018 fel cyd-fenter rhwng Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a Nurture Ventures. Bydd y rhaglen 12 wythnos yn gymysgedd ddwys o weithdai a mentora ymarferol a bydd cefnogaeth gan noddwyr y rhaglen yn galluogi i BioAccelerate gael ei gynnig yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr a ddetholir.

Mae BioAccelerate yn hwylusydd busnes ymarferol sy’n helpu i fasnacheiddio arloesedd yn y sectorau gofal iechyd a biowyddoniaeth ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd y rhaglen yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu syniadau arloesol i gynigion farchnad barod a bydd yn arwain at lwyfan cais am fuddsoddiad i banel o arbenigwyr o'r diwydiant. Bydd y cyfranogwyr sy'n cwblhau rhaglen BioAccelerate yn gallu disgwyl datblygu cynfas model busnes eu hunain, rhagamcanion ariannol, cyfle diffiniedig i’r farchnad, a phrisiad o’r cwmni.

Mae'r rhaglen yn ceisio recriwtio hyd at ddeuddeg arloeswr yn ei garfan gyntaf. Gwahoddwyd datganiadau o ddiddordeb ers wythnos diwethaf a byddant yn helpu'r panel recriwtio i ddewis y cwmnïau sydd â photensial ar gyfer effaith cymdeithasol a masnachol uchaf.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: "Rwyf wrth fy modd y gallwn gynnig cymorth parodrwydd buddsoddi i gwmnïau cyfnod cynnar ac entrepreneuriaid. Mae ein cymuned fusnes yng nghanolbarth Cymru yn tyfu'n gyflym ac, ac mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yma i ddatblygu rhwydweithiau a chysylltiadau drwy BioAccelerate a mentrau eraill tuag at glwstwr mwy.”

Bydd y rhaglen wedi'i strwythuro i gyfuno gweithdai gyda mentora wedi'u teilwra, sy'n cwmpasu pynciau fel prisio, eiddo deallusol a dulliau prisio cwmni. Â darpariaeth a arweinir gan Nurture Ventures, mae nod y cymorth wedi'i deilwra i baratoi cyfranogwyr detholedig gyda chynnig am fuddsoddiad parod am eu harloesedd mewn pryd ar gyfer y diwrnod llwyfan cais, lle bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gystadlu am arian ac arddangos eu cynnydd dros y cynllun 12 wythnos.

Dywedodd Jeff Bartlett, cyfarwyddwr Nurture Ventures: "Ar draws Cymru, rydym yn gweld cred gynyddol yn ein harloeswyr cynhenid. Mae’r meddylfryd entrepreneuraidd cyffrous hwn yn cael cefnogaeth gan amrywiaeth o gymorth cyhoeddus a phreifat sy’n helpu i ddod â syniadau busnes i’r farchnad a chreu swyddi ac effaith gymdeithasol. Rydym wedi rhoi at ei gilydd rhaglen ymarferol 12 wythnos ddwys, sy’n gorffen gyda diwrnod llwyfan cais i ganiatáu inni garlamu masnacheiddio syniadau arloesol a chreu busnesau safon fyd-eang yng Nghymru."

Nod Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yw helpu cwmnïau yn ystod pob cam o ddatblygiad yng Nghanolbarth Cymru a thu hwnt i wireddu eu huchelgais ac i dyfu, i ffynnu ac i ysgogi twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, bio-prosesu a biotechnoleg. Ariennir datblygiad uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n werth £40.5M, gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth.